Bob wythnos yng Nghymru bydd 12 baban yn cael eu geni gydag anabledd dysgu. Mae dros 60,000 o unigolion ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mencap Cymru yw’r elusen fwyaf blaenllaw yn y maes hwn gan weithio gydag oedolion a phlant sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Ym mis Hydref 2008 fe ymunais â thri-deg-naw o bobl eraill ar gyfer taith deg diwrnod o gwmpas Patagonia gyda'r naturiaethwr Iolo Williams, er mwyn codi miloedd o bunnoedd er budd Mencap Cymru.
Diolch am fy nghefnogi trwy fy noddi i gyflawni'r daith. Fe baratoais yn ddyfal ar gyfer y daith dros gyfnod o flwyddyn. Medrwch ddod i wybod rhagor amdani i, pam 'mod i wedi penderfynu cymryd rhan yn y daith hon, ynghylch fy ngwersi Sbaeneg, fy mharatoadau corfforol a'm ffotograffiaeth, trwy glicio ar y cysylltiadau. Medrwch hefyd ddarllen fy nyddiadur paratoadau a oedd yn amlinellu fy mharatoadau ar gyfer y daith.