Ganed Siôn Brynach ym Mangor ym 1968. Fe'i magwyd ym Mangor, Llanllyfni a Gorseinon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera (llu bu'n brif fachgen, ac ennill gwobr am fod yn 'fachgen y flwyddyn'), Prifysgol Cymru Bangor a Choleg Iesu Rhydychen. Enillodd radd anrhydedd yn y Gymraeg ym Mangor gan ymchwilio i'r themâu ym marddoniaeth Gymraeg y 1980au ar gyfer gradd M.Litt. dan oruchwyliaeth yr Athro D Ellis Evans, a'r Athro Thomas Charles Edwards yn Rhydychen. Cyn cychwyn yn y coleg treuliodd Siôn dri mis gyda chymuned Gristnogol Hothorpe Hall yn Swydd Caerlyr a chwe mis yn gweithio i Gyngor Eglwysi'r Byd yn Casa Locarno, Locarno, Swisdir.
Cychwynnodd ar ei yrfa gyda thair blynedd fel Swyddog y Wasg cyntaf Plaid Cymru cyn treulio tair blynedd bellach gyda Centrica (Nwy Prydain) fel Swyddog y Wasg a chyfathrebu'r cwmni yng Nghymru a de orllewin Lloegr. Ym Mai 1999 safodd fel Ymgeisydd yn etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn Nyffryn Clwyd ac yn sedd y gogledd. Ar ddechrau 2000 cychwynnodd ar gyfnod o saith mlynedd yn gweithio i'r Eglwys yng Nghymru fel Swyddog y Wasg i'r Archesgob a Chyfarwyddwr Cyfathrebu'r Eglwys. Cafodd flwyddyn brysuraf ei yrfa yn 2002 pan etholwyd Archesgob Cymru, Rowan Williams, yn Archesgob Caergaint a chanfu Siôn ei hun yn ymgodymu â stori fyd-eang a oedd ar dudalennau blaen papurau newydd pum cyfandir. Ym 2004 cafodd Siôn y cyfle i rannu'r gwersi a ddysgodd yn ystod y cyfnod hwn mewn cynadleddau yn yr UDA a Gwlad yr Ia, gan drefnu cynhadledd ei hun ar gyfer cyfathrebwyr eglwysi gogledd Ewrop yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2006. Rhwng 2004 a 2006 bu'n ymwneud â Chymru Yfory / Tomorrow's Wales, y grwp a sefydlwyd dan gadeiryddiaeth Archesgob Barry Morgan, er mwyn hyrwyddo'r egwyddorion ar gyfer llywodraethu yng Nghymru a amlinellwyd gan Gomisiwn Richard. Ym mis Rhagfyr 2006 cychwynnodd ar swydd fel Ymgynghorydd Atebolrwydd Ymddiriedolaeth y BBC yng Nghymru, bythefnos yn unig cyn i'r Ymddiriedolaeth gychwyn ar ei gwaith o ddifri gyda dyfodiad y Siarter Brenhinol newydd ar ddydd Calan 2007.
Mae Siôn wedi bod yn briod gyda Cathrin ers 1993 ac mae ganddynt dri o blant - sy'n saith, pedair a blwydd oed. Yn ei amser hamdden prin, mae Siôn wrth ei fodd yn mynd â'r ci, Iolo, am dro, tynnu lluniau a rhwyfo ar ei beiriant Concept II - y paratoadau perffaith ar gyfer y daith ym Mhatagonia ym mis Hydref 2008. Mae wrthi ar hyn o bryd yn dysgu Sbaeneg - eto fel paratoad ar gyfer y daith. Mae'n fab i Saunders a Cynthia Davies ac yn frawd i Angharad.
|