![]() |
![]() |
![]() |
|
|
Taith Patagonia Siôn Brynach's Patagonia Trek |
||
Cliciwch yma os gwelwch yn dda er mwyn darllen pennod 2, hanes y daith yn Chubut ac yma er mwyn darllen pennod 3 sef hanes 24 awr olaf y daith yn Buenos Aires. Medrwch weld lluniau'r daith trwy glicio yma16:28 - 16/10/2008, Awyrenfa GatwickYn eistedd yn darllen Paul Theroux, The Old Patagonian Express ... y flight newydd ei galw - porth 53 05:02 - 17/10/2008Awr i fynd cyn cyrraedd Buenos Aires a brecwast wedi bod. Wedi bod yn eistedd 07:42 - Coffi yn awyrenfa Buenos Aires - wedi tsiecio'r bag i mewn i fynd i El Calafate ac yn eistedd mewn caffi. Cwpwl yn eistedd y tu ôl i mi a'r weinyddes yn holi beth oedent ei eisiau a hithau'n dweud 'dim'! 11:56 - Ar y drydedd awyren mewn 24 awr - y tro hwn yn hedfan o Buenos Aires i El Calafate. Wedi cael eistedd wrth y ffenest y tro hwn a gweld yr arfordir a'r paith. Islaw mae 'na byllau mawr sy'n edrych fel petaent yn llawn halen yn hytrach na dŵr. 12:04 - Newydd hedfan dros Benrhyn Valdes - lle byddwn ddydd Iau. Mae'r tirwedd yn edrych yn ddiddorol heb sôn am y bywyd gwyllt.
23:30 – Wedi cyrraedd El Chalten a’r gwesty. Cawod hyfryd a dillad glan cyn swper mewn gwesty cyfagos. Lot o hwyl a Rhobert ap Steffan yn ei hwyliau. Fory – y mynyddoedd ond heno yn El Chalten sydd â theimlad gwirioneddol o dref ffin. Tai tin ac adeiladau newydd ym mhob man. Cŵn mawr blewog ger bob tŷ. Mae’r gwynt yn chwibanu tu allan i’r ffenest felly Duw a ŵyr sut fydd hi yn gwersylla nos yfory! 17:22 - 18/10/2008Yn eistedd ar graig o fewn golwg i’r Glacier de los Tres – rhewlif mawr sy’n gorffen mewn llyn. Yn tynnu at ddiwedd taith y diwrnod cyntaf. Roedd hi’n sych wrth adael El Chalten ond y glaw wedi dod o fewn 5 munud i ymadael. Pawb wedi bod yn gwisgo dillad glaw trwy’r dydd ond ar y cyfan cawodydd fu hi. 18:47 – Bellach wedi cyrraedd y gwersyll a chael paned o goffi. 21:44 – yn y babell – ddim yn rhy oer eto, ond cawn weld sut fydd hi toc. Swper yn dda iawn chwarae teg o ystyried ein byd yng nghanol nunlle. Dyfyniad y dydd – Louise wrth Debs “Can I put my hand in your armpit?” 11:12 – 19/10/2008Wedi bod yn cerdded ers 08:30. Noson iawn tan rhyw 04:00 pan fu’n rhaid codi i fynd i’r tŷ bach – ar ôl hynny wedi rhynnu gan fod eira yn disgyn – ac roedd yn drwch erbyn y bore. Codi a phacio rhwng saith a hanner awr wedi, ac yna gael brecwast. 17:11 – Wedi cyrraedd y gwersyll nesaf, sydd gerllaw Lago Capri, ar ôl prynhawn caled. Roedd yr eira yn drwm iawn prynhawn ‘ma a phawb wedi rhynnu rhywfaint amser cinio er ein bod wedi aros mewn man cysgodol yn y coed. Unwaith y cychwynnodd yr eira o ddifri – a’r gwynt - roedd hi’n nos ar gael unrhyw olygfa. Roedd gorwelion pawb wedi ei gyfyngu i’r hyn y medrent ei weld allan o’r slit yn yr hugan – a sach y person oedd yn cerdded o’i flaen.
11:52 – 20/10/2008 – Glacier Piedras Blancas.Y maes serax yn amlwg iawn arno 13:20 – cinio ac rydym newydd adael Parc Cenedlaethol Los Glaciares. Mae rhywfaint yn gynhesach heddiw na ddoe er yn oerach na’r diwrnod cynt hefyd. 17:50 – Wedi cyrraedd y gwersyll yn Piedra Del Fraile a hwn yw’r gorau o ddigon – dim eira, caban yn hytrach na phabell i fwyta ynddi a phabell ychydig yn fwy na’r rhai blaenorol i gysgu ynddi. Mae hefyd 1,000 o droedfeddi yn is na’r gwersylloedd blaenorol – felly’n debyg o fod rhywfaint yn gynhesach dros nos – diolch byth. 22:04 – Yn y babell ac yn y gwely – mor braf cael cychwyn y nos yn gwisgo dim ond y thermals (h.y. dim cot blu na’r crys fleece gan Rab – neu hyd yn oed y ddau fel y bu hi’r nosweithiau diwethaf). 10:27 – 21/10/2008 Wedi cychwyn ers cyn 09:00 ac yn awr yn cael ysbaid uwchben Lago Electrico. Newydd dynnu llun o Club Moss – y mae Ieuan yn dweud a greodd lo yn yr oesoedd a fu. Heddiw rydym ar ein ffordd i fyny i weld rhewlif y Gendarme Pollone sy’n llifo i lawr wyneb gogleddol mynydd Fitzroy / Chalten. Bore ‘ma roedd hi’n awyr las o ben bore ac fe euthum allan yn gynnar i dynnu lluniau ar lan afon Electrico. Roedd y mynyddoedd yn fendigedig yn haul y bore. 17:58 – Wedi cael diwrnod bendigedig – yn dringo i fyny i weld rhewlif Pollone a oedd yn gwbwl anhygoel. Roedd y rhewlif yn dod i lawr un o lethrau mynydd Chalten / Fitzroy. Ar waelod y rhewlif roedd ‘na lyn (Laguna Pollone) gyda’r dŵr wedyn yn llifo i lawr llethr ac i Lago Electrico sy’n troi yn ei dro yn Rio Electrico. Roedd yr haul yn tywynnu trwy’r bore er fod yn gwynt yn chwyrlio o gwmpas. Cafodd y cinio ei fwyta ar lan y Laguna Pollone. Roeddem yn ôl yn y gwersyll cyn hanner awr wedi un, felly prynhawn ‘ma aeth criw bach ohonom am dro yn y goedwig gyda Iolo er mwyn chwilio am adar ond dim llawer o lwc. 18:10 – Newydd fod yn edrych ar y map gyda Pepe ac wedi gweld pa mor agos yr y’m ni at y ffin gyda Chile – yn llythrennol o fewn 5/6 Km i’r ffin. Soniodd hefyd fod y lama yn dod yn wreiddiol o Ogledd yr Ariannyn a taw’r guanaco yw’r aelod o‘r teulu sy’n dod o’r dalaith hon ond i’w gweld yn y gwyllt ar y paith yn unig a dim yn y mynyddoedd. Dyfyniad y dydd – disgrifiad o un o’r criw - “She’s got the face of a bulldog licking piss off a nettle” 20:52 – Wedi gorffen swper 16:00 – 22/10/2008Ar y bws yn ôl i awyrenfa El Calafate. Bore ‘ma roedd y rwtîn yr un fath ag arfer – codi am 07:00, brecwast am 07:30 a gadael y gwersyll am 8:40 ar ôl yr ymarferion cynhesu am 08:30. Dair awr yn ddiweddarach roeddem wedi cyrraedd y ffordd gerllaw pont dros y Rio Electrico. Pawb ar fysys bach wedyn yn ôl i dref El Chalten. Fe gawsom y bagiau a’r pethau eraill a oedd wedi eu cadw yn yr hostel yn El Chalten yn ôl cyn mynd i’r un bwyty â nos Wener i gael cinio. Wedi cinio aeth Melfyn ac Elfed a minnau am dro chwim i weld a allem ffeindio siop a oedd yn gwerthu pethau a fyddai’n addas fel anrhegion ac fe brynais fap o’r ardal a chrysau-t i Mali a Pwyll. Doedd dim un digon bach yno i Amig. 21:02 – Ar yr awyren o El Calafate i Drelew. Hyd yn oed yn anos bod yn ôl yn holl brysurdeb yr awyrenfa nag oedd hi i fod yn El Chalten. Hiraeth mawr am y mynyddoedd!
Hanes y daith yn nhalaith Chubut23:59 – Yng ngwesty El Cid ym Mhorth Madryn – wedi cael cawod am y tro cyntaf ers bore Sadwrn. Bendigedig! 08:11 – 23/10/2008Ar y bws yn teithio tuag at Benrhyn Valdes i weld y morfilod. Brecwast am saith a gadael y gwesty am 07:30 oedd y drefn heddiw. Ar hyn o bryd yn croesi’r paith a Fred y tywysydd yn dweud taw un rheswm am boblogrwydd cig oen Patagonia yw fod y defaid yn yfed dŵr hallt y paith ac yn bwyta’r perthi yn hytrach na glaswellt. Yn aros ym Mhorth Madryn neithiwr a heno. Heb gysgu’n dda neithiwr – cyfuniad o fod yn or-gyfforddus ac ofn codi’n hwyr a cholli’r bws! ![]() 12:12 – Yn ôl ar y bws ar ôl bod yn gwylio’r morfilod. Roedd hi’n brofiad anhygoel bod mor agos at y creaduriaid bendigedig hyn. Roedd sawl mam a’i llo ymhlith y rhai a welsom ac fe fu rhai ohonynt yn neidio o'r’môr. Rhyfeddol! 12:36 – Newydd weld Rhea – fel estrys bach – yn cerdded ar y paith gyda sawl cyw bach. 12:36 – Mara – anifeiliaid bach maint sgwarnog ond yn edrych mwy fel mochyn cwta. Del iawn – newydd weld teulu ohonynt. 12:57 – Puerto Delgado. Cinio. 16:38 – Cinio mewn bwyty gerllaw goleudy Delgado – ac yna’r profiad gwych o fynd i lawr i’r traeth i weld y morloi eliffant. Mae’r prif wryw yn cadw harem ac yn ymosod ac ymladd gydag unrhyw wryw arall sy’n bygwth. Gall rhai ohonynt bwyso hyd at 3.5 tunnell fetrig ac ar y cyfan mae nhw’n llwyddo i aros ar y brig a rheoli’r harem am 3 neu 4 mlynedd cyn cael ei ddisodli. Mae’r ymladd yn gallu bod yn chwyrn a gwaedlyd. Roedd hi’n ddoniol gweld y llanciau yn chwarae ymladd yn y dŵr bas. Yn ôl yn awr i Borth Madryn 18:15 – wedi gweld sawl guanaco ar y daith heddiw – maen nhw’n anifeiliaid gosgeiddig iawn ac yn llai na’r lama. 08:21 – 24/10/2008Ar y ffordd eto o Borth Madryn tuag at Drelew a Dyffryn Camwy. Neithiwr oedd noson y cinio ‘gala’ felly mae ‘na lot o wynebau blinedig a llygaid ‘bloodshot’ heddiw. Roedd rhai ohonynt ar y traeth o hyd am 04:00 bore ‘ma. 08:49 – Mae gweld yr ogofau yn cyfleu menter y gwladychwyr, yn enwedig o ystyried cyn lleied yr oedd ganddynt o’i cymharu â ni. Rhaid ei bod wedi bod yn erchyll o galed am gyfnod hir wedi’r glaniad, yn enwedig gan fod y paith yn go anffrwythlon. 09:28 – Un o’r pethau mwyaf doniol neithiwr yn y cinio ‘gala’ oedd gweld Mair sy’n 60+ yn ceisio perswadio’r ‘waiter’ yn y bwyty i drwco crysau. Roedd y pŵr dab wedi ei frawychu gan yr hen fenyw fach benderfynol! Bu cryn dipyn o ganu ‘Oes gafr eto?’ (neu ‘Wes gafr eto?’ os taw Eurfyl oedd yn codi canu) hefyd – felly Duw yn unig â ŵyr beth oedd barn pobl y bwyty. Fe ges i ddihangfa rownd yr hanner nos pan holodd un o staff Mencap i fi hebrwng Lleucu yn ôl i’r gwesty. Roeddwn i’n falch bore ‘ma pan fu’n rhaid codi cyn saith i gael brecwast. 09:32 – Wedi llwyddo i gael anrhegion i Amig a Cath brynhawn ddoe. Roeddwn i wedi prynu crys-t i Amig yn awyrenfa El Calafate ond fe’i gadawyd ar yr awyren yn Nhrelew. Un o’r pethau trawiadol am yr yr awyrenfa yn Nhrelew oedd gweld y gair ‘Croeso’ uwchlaw’r fynedfa i’r terminal. Wedi cael bag suede i Cath ddoe. Roedd merch y siop yn hyfforddi i fod yn gyfieithydd felly pan ddywedais fod Cath hefyd yn gyfieithydd fe baciwyd y bag mewn papur brown a bow goch arno hefyd, chware teg iddi. Mae crys-t Amig yn nodi ei fod yn dod o ‘Puerto Madryn’. 10:11 – Sid (arweinydd y daith o du Across the Divide) newydd dweud fod ein ehediad i Buenos Aires heno gyda Aerolineas Argentians wedi ei chanslo – felly mae’n bosib na fydd modd i ni fynd i’r Eisteddfod yn Nhrelew prynhawn ‘ma – tipyn o siom. Mwy o wybodaeth toc – ond mae Aerolineas 11:30 – newydd adael ysgol uwchradd Camwy. Wedi cyflwyno’r llyfrau i’r plant. Gavin wedi rhoi lamp lowyr i amgueddfa’r dref, a Ieuan wedi cyflwyno’r llwy garu a gerfiodd ei hun i’r ysgol. Roedd maer y dref, Gabriel Restucha, yno hefyd ac yn siarad Cymraeg yn lew. Fred y tywysydd sydd wedi bod y gyda ni ers i ni lanio yn Nhrelew echnos yn dweud ein bod wedi teithio 600km yn y bws ers hynny. 13:53 – Ar yr awyren o Drelew i Buenos Aires – yn ymlwybro tua’r rhedfa ar hyn o bryd. Siom o’r mwyaf oedd fod rhaid i ni adael Dyffryn Camwy mor chwim er mwyn dal yr awyren gynharach i Buenos Aires – ac wrth gwrs golli’r eisteddfod yn Nhrelew. Yn awyren yn codi … Rhyw awr a hanner yw’r daith ar yr awyren y tro hwn. Y môr i’w weld yn y pellter a’r paith yn cyferbynnu â glas y môr. 14:09 – Newydd hedfan dros Benrhyn Valdes a thynnu lluniau ohono yn yr haul. Anodd credu taw dim ond ddoe yr oeddem ni yno. Hanes y Daith ym Muenos Aires
23:50 -
Newydd adael y Café de los Angelitos ar ôl noson fendigedig. Roedd y pryd tri chwrs yn hyfryd, y gwin a’r cwmni yn dda, a’r dawnsio yn hollol fendigedig. Cyn i mi ymadael â’r gwesty, roedd Paul, yr wyf yn rhannu ystafell ag ef, wedi disgrifio tango fel “The closest thing to sex in public” ac rwy’n gweld ei bwynt e gan fod y dawnsio yn eithriadol o rywiol – ond ddim rhywsut mewn ffordd ‘salacious’. Roedd y sioe yn dechnegol ddisglair – gyda mwy na hint o sentimentaleiddiwch, yn enwedig yn y canu - ond eto yn llawn hiwmor ac yn cyffwrdd â’r gynulleidfa yn ddwfn iawn gan beri iddynt godi ar eu traed ar ddiwedd y dawnsio. Roedd y cerddorion yn hynod amryddawn a thechnegol ddisglair gyda’r fiolinydd yn anhygoel. Ond yr uchafbwynt oedd y dawnsio – roedd yn hollol arallfydol. Prydferthwch y peth wnaeth fy nharo i yn y lle cyntaf. Yn ail, fod y dawnsio yn pwysleisio rhywsut pam y’n crëwyd yn ddynion a merched – yn cyflawni swyddogaethau gwahanol ond ar y cyd yn creu cyfanrwydd prydferth y tu hwnt i allu’r naill ryw na’r llall. Yn drydydd, fod y tango rhywsut yn ddameg o’r hyn y dylai priodas dda fod – cyd-symud a chyd-ddeall heb fod angen edrych yn barhaus ar eu gilydd na hyd yn oed yn yr un cyfeiriad. Tannau amrywiol yn cyfrannu at yr un gân. 10:37 – 25/10/2008 – Ar daith fws o gwmpas Buenos Aires.Newydd gael gwybod taw 38 miliwn 33 mlwydd oed oedd Eva Peron yn marw. 11:43 – Yn ardal La Boca o gampas stadiwm tîm pel-droed y Boca Juniors – y bu Maradona yn chwarae iddynt mae’n debyg. Ddim yn teimlo’n saff iawn yma a Debbie wedi cael rhywun yn ceisio cipio ei ei chamera. Roedd fy un i wedi ei guddio yn y bag. Hefyd wedi rhoi’r cardiau SD yn y pwrs dan fy nghrys – fe allwn brynu camera arall ond mae’r lluniau yn amhrisiadwy. 12:35 – Yn ardal Caminito ac wedi prynu siol i Mam yn y farchnad – roedd y stondinwr yn gwehyddu ’r sioliau yn y fan a’r lle – felly medrais dynnu llun ohoni wrthi. Eto ardal hynod fyrlymus a theimlad ychydig yn fwy diogel na Boca ond ddim yn rhyw saff iawn! 16:10 – mewn caffi ar yr Avenida Florida yn bwyta brechdan. Ar ôl y wibdaith o gwmpas y ddinas bore ‘ma fe fûm yn cerdded o gwmpas prynhawn ‘ma. Y fantais o fod wedi bod bore ‘ma oedd rhai ardaloedd a golygfeydd wedyn yn gyfarwydd. Fe fûm eto i lawr i’r Tŵr Prydeinig a darganfod fod cofeb meirw rhyfel y Malvinas yn union gyferbyn ag ef. Mae creithiau’r rhyfel yn amlwg o hyd – yn Nhrelew roedd arddangosfa ynghylch y rhai a laddwyd yn y rhyfel a oedd wedi eu lleoli yno, ac yna yma ym Muenos Aires mae’r cofeb rhyfel yn cael ei warchod gan filwyr mewn lifrai trawiadol. Fodd bynnag roedd ‘na rhyw brotest gan feteraniaid rhyfel De’r Iwerydd yn digwydd y tu allan i’r palas arlywyddol pan aethom heibio bore ‘ma. 17:11 – Avenida 9 de Julio, Buenos Aires. Wedi bod yn eistedd ar ochr y ffordd yn darllen a gwylio’r gweithgarwch o gwmpas. Mae ffordd hon â 16 lon felly’n brysur ac yn rhedeg trwy ganol y ddinas. Fodd bynnag mae eistedd yma fel bod mewn parc gyda choed a blodau o gwmpas. Mae dylanwad Paris yn amlwg ar y ddinas.
Ry’n ni ar Boeing 747-400 eto a byddwn yn hedfan 6272 milltir dros 11 awr a chwarter i gyrraedd Madrid. Er fod dros 400 sedd ar yr awyren nid yw pob sedd yn llawn heno. 14:14 – 26/10/2008Ar fin cyrraedd Madrid a’r ffilm Flawless newydd orffen, fu’n wylio perffaith ar gyfer adeg yma’r dydd – amser Madrid yw hwn wrth gwrs ac mae’n dal yn gynnar ym Muenos Aires. Wedi llwyddo i gysgu rhywfaint dros nos a’r daith wedi ymddangos yn fyrrach rhywsut nag ar y ffordd draw. Cwestiwn sylfaenol y ffilm oedd ai rhywun sy’n rhoi ynteu’n cymryd wyt ti ac un o’r pethau amlwg yn y trip hwn yw fod cynifer o bobl wedi rhoi yn hael – eu hunain, eu profiad, eu hamser. 15:26 – Ar yr awyren ac ar fin cychwyn o Madrid i Lundain ac yn ddiolchgar ein bod ar yr awyren olaf o’r diwedd. Cefais rhywfaint o banig yn Madrid – ar ôl cyrraedd y porth ymadael fe sylwais fod y walet ar goll! Roeddwn i’n gwybod ei bod hi gen i pan fûm trwy’r archwiliad pelydr-X felly fe redais yn ôl yno i chwilio. Bu’r archwilwyr yn chwilio’n ddyfal a rhoi fy mag i trwy’r archwilydd eto i weld a oedd yno ond dim lwc. Euthum yn ôl wedyn at y ddesg ymholiadau ond dim lwc yno chwaith. Roeddwn i’n siŵr felly ‘mod i wedi ymuno â’r 20% o’r criw a oedd wedi cael rhywbeth wedi ei ddwyn yn Buenos Aires ynteu ar y ffordd adref. Erbyn hynny roedd yr awyren ar fin ymadael felly rhaid oedd ei throi hi am y porth ymadael – ond ar y ffordd daeth Gareth i gwrdd â fi gyda’r walet yn ei law. Roedd wedi ei chael ar y fainc lle’r oeddwn wedi bod yn eistedd – dan got Mair! Diolch byth. 17:43 – ar y bws yn teithio yn ôl i Gaerdydd o Gatwick |
|||
Mwy am Siôn | |||
Pam? | |||
Dyddiadur y daith | |||
Dyddiadur Paratoadau | |||
Paratoadau | |||
Lluniau | |||
Cysylltwch | |||
Cyfrannwch | |||
English | |||
© Siôn Brynach 2007-08 |
|