logo Cymraeg Mencap Mecap Cymru's English logo


Taith Patagonia Siôn Brynach's Patagonia Trek
Hydref 2008 October

 

Dyddiadur

15 Hydref 2008

Mae'r bag mwy neu lai wedi ei bacio a llai na 24 awr i fynd cyn i'r daith a'r antur gychwyn. Rhaid cyfaddef ‘mod i rhyw ychydig yn nerfus wrth feddwl am y dyddiau nesaf, ond er hynny yn edrych ymlaen. Rwyf wedi penderfynu defnyddio papur a phensil ar gyfer y dyddiadur yn hytrach na cheisio defnyddio dulliau electronig, ond rwy'n addo y bydd y dyddiadur ar-lein yn fuan wedi i mi ddychwelyd adref ar y 26ain o Hydref. Yn y cyfamser, diolch i bawb am eu cefnogaeth.

7 Hydref 2008

Mae’r daith bellach yn agos iawn (wythnos i drennydd), a minnau’n meddwl yn gyson am y pethau sydd ar ôl i’w gwneud cyn diflannu i hemisffer y de. Penwythnos diwethaf Amig yn dathlu ei ail ben-blwyddroedd hi’n ben-blwydd ar Amig - roedd e’n ddwy - ac fe gawsom benwythnos hyfryd o ddathlu gyda Mam-gu a Tad-cu draw yn Aberteifi. Penwythnos nesaf mae Pwyll yn dathlu ei wythfed pen-blwydd ac yn edrych ymlaen at gael beic newydd i nodi’r achlysur. Bu wythnos diwethaf yn hynod o brysur, ac mae’r wythnos hon yn dechrau edrych yn debyg. Nos Sul, a ninnau newydd gyrraedd yn ôl o Aberteifi roeddwn i’n edrych ar wefan yr ysgol i weld beth oedd gwaith cartref y plant, pan dderbyniais e-bost yn fy atgoffa ‘mod i wedi addo llunio erthygl fer ar gyfer newyddiadur yr Eglwys yng Nghymru, Y Llan. Bu’n rhaid mynd ati ar fyrder felly a’i anfon draw at y golygydd cyn noswylio nos Sul. Bydd yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach yr wythnos hon, yn dilyn y Coleg Ethol sy’n cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar hyn o bryd i ddewis esgob. Gobeithio y bydd aelodau’r Coleg yn dethol yn ddoeth. Yn sicr fe gawsant lwyddaint rai wythnosau yn ôl pan etholwyd y Tra Barchedig Wyn Evans yn esgob newydd Tyddewi. Medrwch weld ei lun isod yn y darn ar gyfer 6ed Ebrill.

Ddydd Iau, mae Cathrin yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Home Baker of the Year ym Manceinion, felly rwy’n cael diwrnod rhydd o’r gwaith er mwyn gwarchod Amig. Mae hi wedi gwneud yn eithriadol dda i gyrraedd y rownd derfynol fel hyn, felly gobeithio y bydd hi’n mwynhau’r profiad ddydd Iau. Mae Amig a fi wedi bod yn trafod nifer o syniadau ynghylch beth i’w wneud gyda’n gilydd ddydd Iau. Bydd rhaid i ni weld sut mae’r tywydd cyn penderfynu’n derfynol ond byddai’n braf petai modd i ni gael mynd am dro go dda gyda Iolo’r ci rhyw ben. Bydd angen un ymweliad arall ag Up & Under hefyd rwy’n rhyw amau, i brynu manion munud olaf - fel iodine i buro dŵr nant er mwyn medru ei yfed a sachau sy’n gwrthsefyll dŵr i’w rhoi y tu fewn i’r rhychsach. Rwyf wedi bod ar annel i bacio’r rhychsach i weld beth sydd eto i’w gael ers rhyw wythnos, ond heb gael yr hanner awr sydd ei hangen hyd yma.

26 Medi 2008

Un stori yr anghofiais sôn amdani neithiwr oedd fod Iolo'r ci wedi bod yn ddrwg eto. Ers iddo cyrraedd ei ben-blwydd yn ddeg oed fis diwethaf, roeddem i gyd yn gobeithio ei fod wedi callio o'r diwedd, ond ddoe chwalwyd y gobaith hwnnw. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn gwisgo coler fawr, i'w rwystro rhag llyfu'r clwyf sydd ganddo ar ei goes fe lwyddodd i gyrraedd pen y cownter yn y gegin a bwyta cacen yr oedd Cathrin wedi ei thynnu allan o'r rhewgell. Ac nid cacen fach mohonni chwaith. Pa ryfedd felly ei fod yn cythru o gwmpas 'ma neithiwr - roedd gormodedd o siwgwr yn ei sustem yn ddiau!

25 Medi 2008

Llai na thair wythnos i fynd bellach! Mae'r hyfforddi wedi codi i lefel uwch fyth yr wythnosau diwethaf 'ma, er 'na fu wythnos diwethaf cystal. Wythnos i nos Sul diwethaf bu'n rhaid i Amig druan fynd i'r ysbyty - ac yno fu o tan nos Fercher. Tonsillitis oedd y trafferth, ac yntau ar y nos Sul yn peri gofid am ei fod yn methu yfed hyd yn oed. Gan ei fod wedi bod yn sâl bum gwaith efo'r un salwch ers mis Gorffennaf roedd y staff meddygol yn awyddus i ddarganfod gwreiddyn y broblem, yn enwedig gan ei fod eto i ddathlu ei ail ben-blwydd. Ar ôl tri diwrnod o brofion, diffyg haearn yn ei sustem oedd y casgliad ac felly mae bellach yn cymryd tonig.

Fodd bynnag, gyda Amig yn yr ysbyty a Cathrin yn aros yno gyda fe, bu'n gyfnod go brysur i fi, a dim amser i hyfforddi. Beth bynnag, diolch i gymorth Mamgu a Tadcu, fe lwyddwyd i ddod drwyddi.
Penwythnos diwethaf, roedd yr haul yn tywynnu ac fe gawsom y penwythnos heulog cyntaf ers dechrau Mehefin - felly fe aethom am dro ar y Bannau, a chael amser bendigedig. Ers hynny, mae'r peiriant rhwyfo wedi bod yn cael cryn sylw, a neithiwr fe lwyddais i rwyfo 10km yn gynt nag y gwneuthum ers rhyw ddwy flynedd - 41'40.3" Ddoe hefyd cefais ganlyniad fy ymdrechion ar y cwrs ffotograffiaeth a Llun o bafiliwn yr Eisteddfodchael gwybod fy mod wedi pasio a chael B, gyda'r portffolio a'r traethawd yn derbyn canmoliaeth. Bu'r cwrs ffotograffiaeth yn gryn her, ac roedd paratoi'r portffolio o luniau wedi golygu oriau o waith, felly mae'n beth braf ei fod wedi derbyn cydnabyddiaeth.

Mae'r dillad a'r offer i gyd bron gen i bellach hefyd a dichon taw dim ond angen trip neu ddau arall i Up & Under fydd raid. Mae'n nhw wedi bod yn wych chwarae teg a'r holl offer a argymhellwyd ganddynt yn cyflawni'r hyn a ddisgwylid oddi wrtho - tra ar yr un pryd maen't wedi bod yn ddigon didwyll i ddweud wrthyf pan fo'r offer sydd gennyf eisoes yn gwneud y tro.

2 Medi 2008

… felly lle ar y ddaear ydw i wedi bod ers diwedd mis Gorffennaf? Cwestiwn da, a’r ateb wrth gwrs yw gwyliau haf y plant. Ers i’r ysgol gau ddiwedd mis Gorffennaf, mae pethau eraill wedi bod yn hawlio sylw – fel beiciau, gemau a glaw!

Er gwaetha’r glaw fu’n gymaint nodwedd o fis Awst, mae’r mis diwethaf Llun o'r Coroniwedi bod yn un hwyliog. Fe gefais i bythefnos bant o’r gwaith ar ddechrau mis Awst. Yr wythnos gyntaf fe fuom ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob dydd a chael llawer o hwyl. Roedd hi’n braf fod y maes mor agos eleni; fe fedrem gerdded yno mewn llai na chwarter awr. Fe gafodd Pwyll a Mali’r cyfle i fynychu seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio am y tro cyntaf a oedd yn gyffrous iawn, ac fe fuon nhw’n dringo i fyny’r twr dringo, yn sglefrio ac yn gwario lot o bres ar lyfrau.

Yr ail wythnos, fe drwcon’ ni dŷ gyda Mam-gu a Thad-cu ac fe ddaethon’ nhw i Gaerdydd ac fe aethom ni i Aberteifi, a chael amser bendigedig. Fe aethom i ymweld â Llannerchaeron, am reid ar y trên ager yn Henllan ac am dro ar y traeth yn Poppit. Fe ddaeth Gareth Lisa a William, ein ffrindiau sy’n byw yn Aberteifi draw am swper a dod â llond gwlad o lysiau yr oedden’ nhw wedi eu tyfu i ni gyda nhw.

Ers dod adref, mae pethau wedi bod yn brysur. Rwyf i wedi bod wrthi’n ceisio gorffen fy mhrosiect ar gyfer y cwrs ffotograffiaeth yr wyf wedi bod yn ei ddilyn ers mis Mehefin. Penderfynais wneud y Copaon Pincprosiect ar yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’n rhaid i mi gynhyrchu 10 llun wedi eu trin yn ddigidol erbyn diwedd yr wythnos hon.

Ers dod adref, rwyf wedi bod yn canolbwyntio tipyn mwy hefyd ar yr hyfforddi ac wedi bod yn rhwyfo cryn dipyn. Ddydd Sadwrn diwethaf, roedd Mencap wedi trefnu hefyd i’r grŵp sy’n mynd ar y daith gyfarfod i gael gwneud taith hyfforddi ym Mannau Brycheiniog. Fe gawsom dro da iawn o ryw 7 milltir o gwmpas y bryniau a’r unig siom oedd ei bod hi’n niwlog yn y bore pan oeddem ni ar y copaon, ac yna’n heulog yn ddiweddarach wedi i ni ddychwelyd i’r dyffrynnoedd - pan nad oedd y golygfeydd cystal.

Rwyf bellach hefyd wedi cael manylion ac amserlen y daith ym Mhatagonia, ac fe roddaf y rheiny i fyny ar y wefan cyn bo hir.

23ain Gorffennaf 2008

Felly, lle ar y ddaear fûm i ers Fai y 12ed – pan ddiweddarwyd y dyddiadur ddiwethaf? Mae tri gair y ddigon i ateb y cwestiwn hwnna – Arolwg Blynyddol Cymru. Rhwng canol mis Mai a dydd Gwener diwethaf, dyna'r unig beth – bron – sydd wedi denu fy sylw. Mae ei gynhyrchu wedi bod yn broses hir-wyntog a phoenus eleni gyda'r ‘tin hat' yn dod rhyw 10 diwrnod cyn y dyddiad cyhoeddi, pan aeth yr argraffwyr yn feth-dalwyr, brin 48 awr cyn yr oeddent i fod i ddarparu'r copïau gorffenedig! Beth bynnag, ar ôl noson ddi-gwsg a gwaith rhagorol gan adran ddylunio BBC Cymru, daethpwyd o hyd i argraffwr arall, a fedrai gyflawni'r gwaith o fewn yr amser. Felly drannoeth derbyn y newyddion trist (ac o'i gymharu â'r drafferth gawsom ni, roedd y profiad i staff yr argraffwr yn gan gwaith yn waeth wrth gwrs) roedd y gweisg yn troi unwaith eto.

Oherwydd yr holl amser sydd wedi mynd ar gynhyrchu'r Arolwg, mae hyfforddiant wedi bod yn brofiad achlysurol dros y mis neu ddau diwethaf. Fodd bynnag, fore Sul diwethaf, am chwarter wedi chwech y bore roeddwn i allan gyda Iolo ac ar fy ffordd tuag at y Bontfaen er mwyn cael tro 7 millltir yn yr ardal honno. Erbyn chwarter wedi saith roedd Iolo'r ci a minnau ar ein ffordd ac yn ôl adref, wedi cwbwlhau'r tro, cyn 10 y bore. Roedd hi'n hyfryd iawn hefyd a'r haul yn tywynnu ond ddim yn llethol o boeth. Mae'r peiriant rhwyfo wedi cael rhwyfaint o sylw dros y ddeufis diwethaf, ond rwy'n gobeithio cael treulio ychydig yn rhagor o amser arno yn ystod yr wythnosau i ddod.

Mae'r plant wrth gwrs ar eu gwyliau hefyd, gyda'r ysgol wedi cau ar gyfer gwyliau'r haf ddydd Iau diwethaf. Cafodd Pwyll a Mali adroddiadau da ar ddiwedd tymor chwarae teg ac wrthi'n mwynhau wythnos gyntaf y gwyliau ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar rwyf hefyd wedi bod yn mynychu cwrs hyfforddi ar ffotograffiaeth digidol sy'n cael ei gynnal gan Ffotogallery dan nawdd Prifysgol Caerdydd – ac wedi cael budd mawr o fynd i'r gwersi wythnosol. Yn sicr mae wedi bod yn her cynhyrchu lluniau ar bwnc penodol bob wythnos a chael sylwadau'r disgyblion eraill yn y dosbarth ar y lluniau.

Heno - noson braf ac fe fuom i gyd ar ben mynydd Caerffili yn casglu Llysiau Duon Bach ac yn cael picnic. Hyfryd iawn.

12ed Mai 2008

Porth gorrlewinol Cadeirlan LlandafWythnos arall a'r haul yn tywynnu! Rhaid cyfaddef ‘mod i yn mwynhau'r tywydd heulog cynnes ‘yma - mae'n gwneud cerdded hwnt ac yma i'r gwaith gymaint yn fwy pleserus yn un peth. Dydd Sadwrn, roeddem  ni i gyd wedi cael gwahoddiad i fynychu parti pen-blwydd ffrind i ni, John Winton, a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 wythnos diwethaf. Mae John a Gill ei wraig eisoes wedi bod yn hynod hael wrth gefnogi Mencap a minnau wrth baratoi ar gyfer y daith ym mis Hydref, ond ddydd Sadwrn fe anogodd John bawb a oedd wedi dod i'r parti i gyfrannu at Mencap yn hytrach na dod ag anrheg pen-blwydd iddo ef. Sôn am haelioni. Beth bynnag i ddiolch iddo, ac i nodi'r pen-blwydd, fe wnaeth Cathrin gacen siocled fendigedig i fynd i'r parti, fe wnaeth y plant i gyd gardiau i John, ac fe euthum i â llun o eglwys gadeiriol Llandaf iddo - llun yr wyf yn go falch ohono gan ei fod yn dangos y porth gorllewinol a cherflun Crist Mewn Gogoniant o fewn yr eglwys. Cerflun Esgob Dyfrig

Llun arall y bûm i'n gweithio arno wythnos diwethaf oedd llun o'r cerflun bach o'r esgob (Dyfrig ei hun o bosib) sy'n byw yng nghapel Dyfrig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Rwyf wedi anfon hwnnw at gyfaill i mi, a gysegrwyd yn esgob rai wythnosau yn ôl ac a fydd yn cychwyn ar ei ddyletswyddau fel esgob Ynys Manaw fis nesaf, Robert Paterson. Mae'r cerflun bach fel petai'n crisialu nifer o'r nodweddion gorau y byddai rhywun yn dymuno ei weld mewn esgob - ond yn bennaf oll, fel bugail i bobl y ffordd - bod yn gymdymaith i'w bobl yw y nodwedd pwysicaf oll i weinidog, offeiriad ynteu esgob yn fy marn i.

8ed Mai 2008

O’r diwedd, bedyddiwyd y bwtsias! Gan feddwl bod angen cryn amser er mwyn ystwytho'r bwtsias cyn mynd i Batgonia ym mis Hydref, roeddwn wedi prynu rhai addas yn siop ardderchog, Up & Under yng Nghaerdydd ddechrau mis Chwefror. Ond gymaint fu fy nhrawma ar ôl gwario £120 ar un par o esgidiau nes i mi fethu – yn seicolegol – eu gwisgo tan ganol Ebrill! Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf maent wedi cael defnydd – yn enwedig yn ystod tro bendigedig arall o gwmpas Bro Morgannwg dydd Sul.

Fe fuom yn ffodus iawn gyda’r tywydd gan iddi fod yn braf ar y cyfan er gwaetha darogan glaw gan broffwydi’r tywydd. Roedd Ruth ein ffrind sy’n byw yn Bradford i lawr dros benwythnos Gŵyl y Banc, felly fe aethom ni am dro chwe milltir o Lancarfan i Benmarc i lawr heibio pen draw rhedfa’r awyrenfa, trwy gae yn llawn lloi bach bwyiog ac at gastell Ffwnymwn; draw wedyn i Lancadle cyn croesi’r caeau (a gweld dau bâr o gornchwiglod) i Lanfydderi ac yn ôl i Lancarfan. Tro hyfryd tu hwnt, er ein bod ni i gyd yn flinedig erbyn cyrraedd yn ôl at y car.

Ers y penwythnos fodd bynnag mae wedi bod yn brysur yn y gwaith, gyda thaith dydd Mawrth a dydd Mercher o gwmpas Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn gwneud trefniadau ar gyfer digwyddiadu a chyfarfodydd gyda’r gwaith yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Pleser mawr oedd cael gweld y Parch Eileen Davies, Llanllwni, unwaith eto. Roeddwn wrth fy modd cael bod yn y gwasanaeth i’w thrwyddedu’n Ymgynghorydd Cefn Gwlad Esgobaeth Tyddewi ym mart Llanybydder rai blynyddoedd yn ôl a phleser oedd ei gweld unwaith eto yr wythnos hon wrth iddi roi cyngor i ni ynghylch digwyddiad yr ydym yn ei drefnu yng nghyffiniau Llanybydder dros yr haf. Pleser arall wrth gwrs oedd cael gweld barcutiaid coch yn hedfan uwch ben wrth deithio o gwmpas Ceredigion. Mae’n nhw’n adar gwirioneddol anhygoel. Beth bynnag, heno rwy’n gobeithio dringo’n ôl ar y peiriant rhwyfo ar ôl wythnos heb iddo gael sylw.

6ed Ebrill 2008

Eglwys Gadeiriol TyddewiMae gymaint wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf - Pasg ac ymweliad i Aberteifi i aros gyda Tad-cu a Mam-gu, cyrraedd yr isafswm nawdd ar gyfer y daith i Batagonia, fy mhen-blwydd yn ddeugain ac yna taith ymarfer i ben Pen y Fan gyda Mencap, a’r plant yn cael tynnu eu llun ger y copa gydag Iolo Williams: dyfarniad Pwyll - “mae Iolo Williams yn cŵl!”

Bu penwythnos y Pasg yn Aberteifi yn fendigedig - croeso mawr fel arfer oddi wrth Mamgu a Tad-cu, ac fe gafodd Pwyll y cyfle i fynd i Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar noswyl y Pasg gan fod Tad-cu yn cynnal bedydd esgob yno y noson honno. Bu Pwyll wrth ei fodd yn yr Eglwys Gadeiriol gan fwynhau’r gwasanaeth a’r profiad o fod allan yn hwyr! Pwyll gyda Mamgu, Tadcu, Deon a Chaplan Eglwys Gadeiriol TyddewiSul y Pasg fe aethom i’r gwasanaeth yn eglwys y Ferwig a chael croeso mawr gan y gynulleidfa.

Yn ystod y dyddiau canlynol fe aethom am dro mwdlyd iawn dros y bryniau o gwmpas Aberteifi a oedd yn hyfryd ac ar y ffordd adref daro ar Dwynwen a’i theulu. Roedd Dwynwen yn arfer bod yn un o’m cyd-weithwyr yn swyddfa’r Eglwys yng Nghymru ac roedd yn hyfryd ei gweld hi a’i theulu unwaith eto.

Ers dychwelyd i’r gwaith ddydd Llun diwethaf bu’n brysur iawn, a’r gwaith i gyd bron wedi ei ganolbwyntio ar gyflawni’r trefniadau terfynol ar gyfer digwyddiad i’r cyhoedd yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog. Chwarae teg i bobl Blaenau, roedd y digwyddiad yn un gwych, gydag un o’r aelodau sydd wedi bod hiraf ar y Cyngor cynulleidfa yn dweud taw hwnnw oedd yr un gorau iddo fod iddo mewn 4 mlynedd. Fodd bynnag un hwb aruthrol arall oedd cyrraedd yr isafswm nawdd sydd ei angen ar gyfer gwneud y daith ddydd Llun diwethaf - diolch i haelioni cynifer o bobl. Yn ôl ym mis Hydref pan ddechreuais ar y broses o gasglu nawdd i Mencap, roeddwn yn amcanu y buasai’n cymryd 100 o gyfraniadau ac yn gobeithio y buaswn wedi cyrraedd y nod erbyn fy mhen-blwydd yn ddeugain ar Ebrill 4ydd.. Wel yn ffodus roeddwn yn o agos ati ar y ddau gyfrif - fe gymerodd 101 o gyfraniadau i gyrraedd yr isafswm nawdd o £3500 ond fe gyrhaeddais y nod gyda rhyw 4 diwrnod yn sbar. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu mor hael.

Ddydd Gwener roeddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn ddeugain a chwarae teg i’m cydweithwyr fe gefais gacen ben-blwydd urddasol iawn i nodi’r achlysur. Nos Wener, ar ôl cyrraedd yn ôl o’r gogledd, fe aethom allan am gyri gyda Mamgu a Tadcu, a phawb wedi mwynhau.

Pwyll a Mali gyda Iolo WilliamsDdoe - roedd Mencap wedi trefnu taith gerdded hyfforddi i gopa Pen y Fan, ac fe ddaeth y teulu ac Iolo’r ci gyda fi. Bu pawb yn ardderchog o dda wrth gerdded a dringo, er gwaetha’r gwynt cryf oedd ar y copa. Chwarae teg iddo, roedd Iolo Williams - fydd yn arwain y daith i Batagonia ym mis Hydref - wedi dod i arwain y daith ddoe hefyd, ac roedd Mali a Pwyll wrth eu boddau yn ei gwmni. Roedd llawn mor hoffus yn y cnawd ag y mae ar y sgrin gan roi llaw i Mali a Pwyll i’w helpu dros y darnau anoddaf o’r dringo.

Mae’r plant yn mynd yn ôl i’r ysgol fory – bydd Mam yn teimlo hiraeth am Mali a Pwyll yn ystod y dydd.

18ed Mawrth 2008

Tair wythnos brysur iawn – yn y gwaith ac adref. Rhyw bythefnos yn ôl llwyddais i gyrraedd carreg filltir bwysig ar y peiriant rhwyfo – sef 3,000,000m. Wedi cael cyfle i wneud tipyn o rwyfo neithiwr ac echnos hefyd ar ôl wythnos mor brysur wythnos diwethaf fel na fu cyfle o gwbwl i ddefnyddio'r peiriant Concept II. Beth bynnag, neithiwr fe lwyddais i rwyfo 10km yn gynt nac ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y tymor hwn. Llwyddiant felly! Roeddwn wedi rhwyfo 10km nos Sul – y noson gynt – hefyd,  felly wedi cael tipyn o ymarfer corff y dyddiau diwethaf 'ma. Ddydd Sadwrn, fe aethom am dro 4 millltir yn y wlad o gwmpas St Nicholas a Llwyneliddon. Hyfryd iawn er gwaetha'r glaw trwm a fu'n syrthio am y 4 awr y buom yn cerdded ar draws gwlad – ar wahan i rhyw 20 munud pan fuom ni'n cysgodi ger cromlech Llwyneliddon yn bwyta'n picnic. Dim rhyfedd felly i ni losgi tunnel o galoriau ar ein tro - dros 600 dros gyfnod o 4 awr, a diau fod yr holl fwd y buom ni'n ymlafnio trwyddo wedi helpu rhyw gymaint gyda hynny. Roedd y plant yn arllwys y dwr allan o'r welis erbyn iddynt gyrraedd yn ôl at y car, ac felly fe aeth pawb i'r bath yn syth wedi cyrraedd adref, a chael ymlacio wedyn o flaen y teledu er mwyn gwylio'r ornest rygbi rhwng Cymru a Ffrainc. A sôn am ornest. Mae fy ewinedd i wedi diflannu'n llwyr!

Ond i droi'n ôl at y rhwyfo am eiliad, mae hynny hefyd yn llosgi calorïau di-ri. Neithiwr er enghraifft dros gyfnod o 42 munud 18 eiliad fe losgais i 700 calori – sydd yn dangos ffordd mor effeithiol o ymarfer yw hi i gael sesiwn ar y peiriant rhwyfo.

20ed Chwefror

Dydd Mercher, a rydym i gyd jyst yn dechrau dod dros ein tro anferthol dydd Sul. Y bwriad oedd tro fach fer o gwmpas Ystradowen, ond roedd yr haul yn tywynnu ac ymlaen a aethom - nes yn y diwedd gerdded am saith milltir. Bu'r plant unwaith eto yn ardderchog ac ni fu cwyno o gwbwl chware teg iddynt. Roedd hi'n dro hyfryd a'r golygfeydd yn fendigedig dros Fro Morgannwg, ond roeddem i gyd yn falch o gael cyrraedd yn ôl at y car yn y diwedd. Mae'r troeon yma yn y Fro yn hyfryd, ac rydym eisoes wedi dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer sawl un - cyfarwyddiadau a baratowyd gan yr elusen Valeways. Cliciwch yma i weld pa ffordd yr aethom am dro ddydd Sul.


14eg Chwefror 2008

Pythefnos prysur arall a rhai enghreifftiau o haelioni sydd wedi codi fy nghalon yn ddirfawr. Dydd Mercher y Lludw (6ed Chwefror) er enghraifft, roeddwn wedi deffro’n gynnar ac yn eistedd yn y gwely yn magu yr ieuengaf sy’n flwydd oed, ac a oedd yn sâl, ac, fel mae rhywun rhwng cwsg ac effro, yn hel meddyliau ac yn poeni ynghylch cyrraedd y nod ar gyfer casglu nawdd. Rwy’n gwybod fod naw mis i fynd cyn y daith ym Mhatagonia ond mae rhywun yn dal i boeni! Beth bynnag, y noson honno, cyrhaeddais adref o’r gwaith – ac yn llythrennol roedd ateb i weddi yn fy nisgwyl ar ffurf siec am £250 oddi wrth Gylch Eglwysi Bedyddwyr Carningli yn ogystal a sieciau eraill am £50 oddi wrth aelodau o’r teulu. Sôn am fod yn ddiolchgar!

Ers hynny mae ‘na sawl siec hael arall wedi dod i’r fei, felly gyda rhyw ychydig dros £800 i’w gasglu eto cyn cyrraedd yr isafswm nawdd, mae’r mynydd yn edrych yn llai nag yr oedd wythnos neu ddwy yn ôl.

Sarah BroughtonMae’n dymor yr anwydau a’r salwch hefyd, felly mae sawl un o’r plant wedi bod yn sâl – yr ieuengaf wythnos diwethaf, a’r un canol ar hyn o bryd. Mae’n wyliau hanner tymor yr wythnos hon, ac roeddem i gyd wedi gobeithio mynd i lansio llyfr Sarah Broughton – a arferai fyw drws nesaf i ni – mewn siop lyfrau yng nghanol Caerdydd amser cinio heddiw, ond fel oedd hi, Pwyll, y plentyn hynaf a fi a fedrodd fynd gyda’r lleill yn swatio adref gyda mam. Pan yr oedd Sarah yn byw drws nesaf i ni, roeddem yn cael adroddiadau lled gyson ynghylch y cynydd gyda’r llyfr, felly mae’n wych ei fod wedi dod i fwcwl a bellach wedi ei gyhoeddi. Gobeithio taw Other Useful Numbers fydd y nofel gyntaf o nifer gan Sarah – ac mae Cathrin a minnau yn edrych ymlaen at ei darllen.

Penwythnos diwethaf, cawsom dro hyfryd yn y wlad o gwmpas Dinas Powys – pum milltir o hyd, a dim un cwyn oddi wrth y plant, chwarae teg iddynt. Roedd y tywydd yn wanwynol a bu hynny’n elfen ganolog i’r pleser a gawsom o’r daith. Mae’n rhyfeddol pa mor gyflym y mae modd cyrraedd cefn gwlad o Gaerdydd. O fewn deg munud i adael y tŷ roeddem allan o olwg unrhyw adeiladau. Cafodd Iolo’r ci amser wrth ei fodd yn rhedeg trwy’r goedwig ac yn ymdrochi mewn ffosydd a nentydd – bu’n rhaid iddo gael cawod ar ôl cyrraedd adref a bellach mae iddo gymysgedd ddifyr o arogl tea tree oil a ffosydd!

30ain Ionawr 2008

Euthum am dro rhyw amser cinio ychydig ddiwrnodau yn ôl a chael cyfle i wrando ar raglen BBC Radio 4 Case Notes, ynghylch plant sydd â Down's Syndrome, ar yr iPod. Roedd hi'n raglen hynod ddiddorol yn ddeallusol ond yn cyffwrdd â'r galon hefyd, ac yn cyfleu rhyw gymaint o'r her sy'n wynebu pobl â chyflwr Down's a'u teulu. Os hoffech glywed y rhaglen ynteu ddarllen y sgript medrwch wneud hynny trwy glicio ar y cyswllt perthnasol.

Rwy'n gwrando ar cryn dipyn o BodLediadau y dyddiau hyn – yn enwedig wrth rwyfo – ac un sy'n gyson ar yr iPod yw PodLediad Natur BBC Radio Cymru gyda Iolo Williams. Mae bob amser yn ddifyr tu hwnt – mwy o fanylion trwy glicio a mynd yma. Roedd un o'r PodLediadau diweddaraf yn rhannu profiad Iolo wrth iddo ymbalfalu o gwmpas chwarel yng nghyffiniau Blaenafon yng nghymoedd Gwent, a Iolo fel arfer yn gwneud i mi deimlo fel petawn i'n mynd am dro yn y wlad gyda'm llygaid ar gau! Mae pob PodLediad 10 munud o hyd yn drysor bach yn fy marn i.

8ed Ionawr 2008

Wel - mis cyffrous a llawn rhwng Nadolig a'r cyfan oll arall. Rhyw wythnos cyn y Nadolig, daeth y gwersi Sbaeneg i ben am y tro, gyda sgwrs a gemau anffurfiol yn nhafarn y Cayo yn Cathedral Road, ac yn y math yna o gyd-destun mae rhywun yn sylweddoli ei fod wedi gwneud rhyw gymaint o gynydd - diolch i ymdrechion Sandra'r athrawes a'm cyd-ddisgyblion yn y dosbarth. Mae'r gwersi'n ailddechrau heno, ac rwy'n edrych ymlaen!

Fe gyrhaeddais i'r nod hefyd gyda her wyliau Concept II ond cael a chael oedd hi. Eleni roeddwn i'n benderfynol 'mod i am gwblhau'r her cyn noswyl Nadolig - sef pryd y daeth pethau i fwcwl y llynedd. Fodd bynnag, y nos Sadwrn cyn y Nadolig dechreuais deimlo'n sâl (roedd Cathrin eisoes wedi cael dos o salwch, a'r ieuengaf wedi dechrau chwydu) ac wrth gwrs chwydu fu fy hanes innau hefyd wedyn am 24awr. Fodd bynnag, nos Lun - noswyl Nadolig - fe lwyddais i gwblhau'r 200,000m. Ers hynny, mae'r peiriant rhwyfo wedi cael egwyl ond fe fu rhywfaint o ymarfer corff dros dymor y Nadolig, gyda sawl tro hyfryd yn ystod y tri-bedwar diwrnod y buom yn aros gyda Mamgu a Thadcu yn Aberteifi, a thro wych arall y penwythnos diwethaf wrth i ni fel teulu fynd i ddringo'r bryniau yng nghyffiniau Llan Nant Hodni ar Fannau Brycheiniog. Roeddem ni'n gwbwl anghyfarwydd gyda'r fro tan yn ddiweddar, a phleser o'r mwyaf oedd cael mwynhau rhai o'r golygfeydd o'r fro wrth ddringo. Hyfryd oedd cael mynd hefyd i ymweld ag eglwys hanesyddol Patrishow am y tro cyntaf ers ugain mlynedd neu ragor.

Edrychwn ymlaen at ragor o droeon o'r fath yn ystod yr wythnosau i ddod.

8ed Rhagfyr 2007

Llwyddiant - wedi cyrraedd y 100,000m yn yr her wyliau. Dim ond 100,000m arall i fynd cyn noswyl Nadolig!

6ed Rhagfyr 2007

Wel rhoi cynnig arni fu'r penderfyniad a bellach rwyf bron â chyrraedd hanner ffordd gyda Her Wyliau Concept II – ac o fewn rhyw 12.5km i gyrraedd y 100,000m cyntaf. Mae wedi bod yn galed fodd bynnag, ac mae rhwyfo 15km ar y tro wedi bod yn gryn straen – yn ogystal a chymryd amser. Mae'n cymryd rhyw awr ac wyth munud i fi gyrraedd y nod pan yn rhwyfo 15km. Dros ddyddiau olaf wythnos diwethaf felly, fe gefais dair sesiwn o 10km yr un a oedd llawer yn haws yn seicolegol. Neithiwr, rhoddais gynnig ar 12.5km ac roedd hynny'n weddol hefyd. Mae rhwyfo am awr neu ragor fel petai'n glwyd seicolegol ychwanegol i lamu drosti.

Wrth i'r Nadolig ddynesu, mae bywyd fel petai'n prysuro hefyd. Neithiwr bu Cathrin a'r plant yn gwneud y gacen Nadolig a'r penwythnos hwn, rydym yn gobeithio anfon y cardiau ac o bosib hyd yn oed addurno'r goeden Nadolig. Wythnos nesaf cawn y pleser o fynd i sioe Nadolig ysgol y plant – yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd. Mae'r tŷ wedi bod yn atseinio o ganeuon y sioe ers diwrnodau os nad wythnosau! Rydym yn edrych ymlaen at gael mynychu'r perfformiad.

A daeth saga yswiriant y car i ben hefyd. Methu â datrys y sefyllfa mewn pryd fu hanes M&S - felly mae'r car bellach yn cael ei yswirio gan gwmni yswiriant y COOP - er i M&S roi caniad ychydig ddiwrnodau yn ôl i ymddiheuro am y blerwch a'r anghyfleustra a fu.

19eg Tachwedd 2007

Wel, mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn ffrantig! Yn y lle cyntaf lluniais ac anfonais lythyron at y rheini ar ein rhestr gardiau Nadolig yn holi iddynt fy noddi ar gyfer y daith hon ar ran Mencap, a bu’r ymateb yn wych chwarae teg. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sydd eisoes wedi fy noddi – a gwneud hynny mewn ffordd mor hael.

Ond y peth arall sydd wedi cymryd amser anhygoel ers dechrau’r mis yw’r broses o geisio prynu yswiriant i’r car - mae’r polisi presennol yn dod i ben ddiwedd y mis. Llynedd fe brynais fy yswiriant trwy M&S Money ond mae’r broses o geisio cael pris yn seiliedig ar y wybodaeth gywir ar gyfer adnewyddu’r polisi wedi bod fel tynnu dannedd! Cychwynnais y broses ddechrau’r mis. 10 diwrnod wedyn fe wnaethon nhw holi i mi am gopïau pellach o wybodaeth a anfonais atynt y llynedd yr oeddent yn rhy ddiog i’w adfer o’u harchif eu hunain. Wedyn holasant i mi gysylltu gyda’i hyswiriwr nhw er mwyn eu cael nhw i gadarnhau gwybodaeth a anfonais atynt ym mis Mawrth. Gwneuthum hynny ddiwedd wythnos ddiwethaf, ond pan gefais gwôt anghywir eto fyth ddydd Sadwrn, ac o gysylltu â nhw rhyw ymateb digyffro y gallasai fod yn wythnos arall cyn y medrent anfon cwôt cywir ataf, rwy’n ofni i mi golli fy limpyn yn lan. Canlyniad hynny oedd llythyr wedi ei ffacsio at Brif Weithredwr M&S yn holi iddo ddefnyddio ei ddylanwad i geisio datrys y sefyllfa. Cawn weld pa ymateb a ddaw. Y glo man wrth gwrs yw bod y pethau ‘ma i gyd yn cymryd amser - amser y buaswn fel arall yn medru ei ddefnyddio i hyfforddi. Fodd bynnag fe lwyddais i rwyfo 24km ar y peiriant rhwyfo dros y penwythnos.

Tachwedd 22 mae Concept II, gwneuthurwyr y peiriant rhwyfo yr wyf yn ei ddefnyddio, yn lansio’r “Her Wyliau” flynyddol - yr her yw rhwyfo 200,000m rhwng y Diolchgarwch Americanaidd - a ddethlir eleni ar 22ain Tachwedd - a noswyl Nadolig. Mae hyn yn golygu rhwyfo ar gyfartaledd rhyw 7km y noson ond wrth gwrs, mae’n amhosib, oherwydd galwadau eraill, rhwyfo bob nos. Fodd bynnag, fe lwyddais i gyrraedd y nod y llynedd (am ddeg y nos ar noswyl Nadolig!) ac rwy’n ystyried pa un ai i ymgymryd â’r un her eleni eto. Bydd rhaid pwyso a mesur y peth dros y tridiau nesaf - ac wrth gwrs weld a fydd rhaid treulio oriau maith eto yn annog M&S Money i gael trefn ar yswiriant y car!

4ydd Tachwedd 2007

Wel dyma ni'n ôl o'n gwyliau hanner tymor. Mae wedi bod yn egwyl braf ond yn drychinebus i'm ffitrwydd, er yn llwyddiant o ran cael cyfle i dynnu lluniau. Sawl gwaith bellach rydym wedi bod yn aros mewn bwthyn ym mhentref bach godidog Llangernyw, yn nyffryn Elwy. Mae'n berffaith i'n anghenion ni gan fod lle i'r tri plentyn a'r ci gael carlamu o gwmpas yn yr ardd fawr sydd yno.

Ond i droi'n ôl am eiliad at y lluniau - un o'r pethau godidocaf yn y fro yw'r bryniau sydd o fewn tafliad carreg i'r bwthyn, ac er gwaetha'r ffaith ein bod wedi bod yno ddwy waith o'r blaen, daethom ar draws llwybrau newydd eto y tro hwn. Drannoeth wedi cyrraedd aethom am dro, gyda'n ffrind Ruth, a oedd yn ymweld â ni yno, trwy'r goedwig sydd islaw hen blasdy Hafod Unnos. Mae'r tirwedd yn drawiadol iawn gyda'r afon yn rhaeadru mewn sawl man. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, gyda Nain a Taid yn ymweld â ni, aethom i gyd am dro ar y bryniau cyfagos, gan gerdded am dros ddwy awr heb weld neb ond y ffermwr a'i ddau gi - ac wrth gwrs torreth o blanhigion difyr ac adar. Ein gwbor am chwysu oedd cinio yn yr Old Stag yng nghanol y pentref. Y pleser o ran lluniau oedd gweld y newid a fu yn y tirwedd, ond hefyd yr effaith sylweddol y mae golau euraidd yr hydref yn ei gael ar bopeth. Bydd rhai o'r lluniau i'w gweld ar y wefan yn fuan, wedi i mi gael rhywfaint o drefn arnynt.

Fory, yn ôl i'r ysgol a'r plant a minnau yn dychwelyd i'r gwaith - ac at y peiriant rhwyfo. Mae 'na gryn dipyn o floneg i'w golli wedi wythnos o basteiod ffrwythau Nain a llai o ymarfer corff nag arfer.

11eg Hydref 2007

Pen-blwydd cyntaf y plentyn ieuengaf yn fy atgoffa am her bennaf fy oes hyd yn hyn. Flwyddyn union yn ôl roeddwn i’n rhoi’r plant hŷn yn y gwely a Cathrin i lawr yn y gegin, gyda’r fydwraig, a oedd wedi bod yma yn gynt, wedi dychwelyd i’r swyddfa ar ôl darogan y byddai’n oriau eto cyn i’r babi gael ei eni. Fodd bynnag nid felly y bu hi!

Rhyw bum mund ar hugain wedi saith, daeth gwaedd o’r gegin! I lawr y grisiau â mi, a darganfod Cathrin wrthi yn fflingio llenni cawod newydd dros y soffa yn y lolfa ac yn dweud wrthyf am ddilyn cyfarwyddyd y fydwraig i’w ffonio hi ac hefyd ffonio’r gwasanaeth ambiwlans. Wrth ymadael yn gynharach roedd y fydwraig wedi dweud y gall yr ambiwlans yn aml ruthro trwy’r traffig yn gynt gyda’u golau glas. Felly y bu, ond eiliadau i mewn i’r alwad â’r gwasanaeth ambiwlans, daeth yn amlwg taw fi fyddai’r fydwraig! “Excuse me while I just rip the phone off the wall” meddais wrth y bachgen ar ben arall y ffôn gan fynd â’r ffôn drwodd i’r lolfa at ochr Cathrin.

Bu ei gyfarwyddiadau yn wych chwarae teg iddo, er mod i’n teimlo cyfuniad o fod yn hollol di-glem ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd heb y syniad lleiaf o beth i’w wneud a wedi fy mrawychu’n llwyr gyda’r cyfrifoldeb. Roeddwn wedi bod yn bresennol adeg geni’r plant eraill ond wedi osgoi cadw golwg fanwl ar bethau.

Fodd bynnag, erbyn i’r ambiwlans gyrraedd, roedd Amig Ffransis wedi ei eni, rhyw wyth munud yn unig ers i Cathrin alw gyntaf. Mae wedi bod ar garlam byth oddi ar hynny!

Dichon fodd bynnag, y bydd yr her o deithio ar droed ym Mhatagonia, ymhen ychydig dros flwyddyn yn dipyn o beth hefyd. Dim ond gobeithio y byddaf yn cael y cyfle i gyrraedd yno ar ôl codi’r arian angenrheidiol ar ran Mencap.

Mwy am Siôn
Pam?
Dyddiadur y daith
Dyddiadur Paratoadau
Paratoadau
Lluniau
Cysylltwch
Cyfrannwch
English

© Siôn Brynach
2007-08