logo Cymraeg Mencap Mecap Cymru's English logo


Taith Patagonia Siôn Brynach's Patagonia Trek
Hydref 2008 October

 

Pam? Beth yw'r cymhelliad ar gyfer y daith?

Mae cymhellion yn bethau anodd ond y'n nhw? Mae lles personol a thorfol yn aml yn cyd-blethu. Pan glywais gyntaf ynghylch y daith arfaethedig hon i Batagonia yn ôl yn haf 2007 mae'n siwr fod 'na gymysgedd o'r fath yn weithredol - ar y naill llaw y cyfle i fi yn bersonol wynebu her newydd gyffrous, ac ar y llaw arall, y cyfle hefyd i wneud rhywfaint o ddaioni i'r rheini y mae'r elusen Mencap yn eu cynorthwyo. Mae Cathrin a fi wedi ein bendithio cymaint gan ein tri phlentyn a ddim yn diolch hanner digon eu bod mor iach a heini. Mae pob plentyn wrth gwrs yn rhodd ond does bosib nad yw'r rheini sy'n magu plant ag anawsterau dysgu yn haeddu pob cefnogaeth oddi wrthym ni fel cyd-aelodau ein cymdeithas, er mwyn cynorthwy'r plant rheini i gyflawni eu potensial fel aelodau gwerthfawr o'r un gymdeithas honno. Mae'n cymryd pentref cyfan i fagu plentyn yn ôl y ddihareb Affricanaidd ond mae'n siwr fod hynny'n arbennig o wir gyda phlant sydd ag anawsterau dysgu.

Un o'r llyfrau a wnaeth argraff ddofn arnaf fi rai blynyddoedd yn ôl oedd cyfrol Jean Vanier, Becoming Human, lle yr amlinella'r awdur ei brofiadau fel un o syflaenwyr cymunedau L'Arche, lle mae cartrefi a chymorth yn cael ei ddarparu i bobl ag anawsterau dysgu. Yno dywed Vanier:
"So many people with disabilities are seen by their parents and families only as a tragedy. They are surrounded by sad faces, sometime full of pity, sometimes tears. But every child, every person needs to know that they are a source of joy; every child, every person needs to be celebrated. Only when all of our weaknesses are accepted as part of our humanity can our negative, broken self-images be transformed...Assistants in l'Arche ... help them to grow towards maturity."

Mi fydd cyfran o'r isafswm o £3500 y gobeithiaf ei godi yn mynd i'm cynorthwyo i gyrraedd Patagonia a cherdded yng nghyffiniau mynydd Fitzroy gyda Iolo Williams (ac mae'r nod honno wedi ei hen gyrraedd diolch i haelioni teulu a chyfeillion), ond bydd y rhan helaethaf yn mynd i gynorthwyo'r rheini sy'n dringo mynydd bob dydd wrth fagu a gofalu am bobl gydag anableddau dysgu. Gyda'ch cymorth chi, gyda'n gilydd medrwn wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ag anawsterau dysgu trwy gyfrannu at y gwaith da y mae Mencap yn ei wneud.

Bydd pob cyfraniad yn awr yn mynd yn syth i hyrwyddo gwaith Mencap - cliciwch YMA i weld sut y medrwch gyfrannu

Mwy am Siôn
Pam?
Dyddiadur y daith
Dyddiadur Paratoadau
Paratoadau
Lluniau
Cysylltwch
Cyfrannwch
English

© Siôn Brynach
2007-08