logo Cymraeg Mencap Mecap Cymru's English logo


Taith Patagonia Siôn Brynach's Patagonia Trek
Hydref 2008 October

 

Paratoadau

rhwyfo

Rhwyfo

Mae cadw rhyw lefel o ffitrwydd wedi bod yn bwysig i mi ers rhai blynyddoedd ac un o'r prif ffyrdd sydd gennyf o wneud hynny, yw trwy rwyfo ar fy mheiriant rhwyfo Concept II. Cychwynais rwyfo yn y coleg flynyddoedd maith yn ôl ac rhyw 4 mlynedd yn ôl ail-afaelais yn nolenni'r peiriant.

Llynedd llwyddais i golli tair stôn trwy rwyfo a chyfrif calorïau ac rwy'n awyddus i gadw'r un lefel o ffitrwydd wrth baratoi ar gyfer y daith ym mis Hydref 2008.

Ffordd arall o gadw'n heini yw cerdded hwnt ac yma o'r gwaith bob dydd - taith o rhyw 25 munud - ac wrth fynd rwy'n medru gwrando ar fy iPod a defnyddio'r amser i ddysgu ...


Sbaeneg

gwersi Sbaeneg

Yn fuan wedi clywed am daith Mencap i Batagonia mynychais gwrs dysgu Sbaeneg byr Menter Caerdydd. Dros yr haf bûm wrth'n ddyfal wedyn yn gwrando ar gwrs dysgu Sbaeneg Michel Thomas.

Ers mis Hydref rwyf wedi ail-ymafael yn y gwersi wythnosol, gyda fy athrawes a welir yn y llun ar y dde. Fodd bynnag rwy'n parhau hefyd i wrando ar gwrs Michel Thomas wrth gerdded hwnt ac yma i'r gwaith - ac mae rhyw 15 munud unwaith neu ddwywaith y dydd yn golygu 'mod i efallai'n dysgu - a chofio - rhyw un peth newydd y dydd. Dyfal donc. ..!


Ffotograffiaeth

llun bryniau

Un o'm diddordebau ers fy llencyndod fu ffotograffiaeth, ac yn enwedig felly dynnu lluniau bywyd gwyllt.

Yn ddiweddar cefais gamera SLR digidol Nikon yn anrheg ac mae hynny wedi ail-danio fy awydd i grwydro'r priffyrdd a'r caeau yn chwilio am luniau.

Medrwch weld rhai o'r lluniau a dynnais yn ystod haf a hydref 2007 ar y dudalen luniau, ac hyd yn oed eu prynu os y dymunwch hynny, gyda phob elw yn mynd i gefnogi'r daith gyda Mencap. Er mwyn mynd i'r dudalen luniau cliciwch yma

 
Mwy am Siôn
Pam?
Dyddiadur y daith
Dyddiadur Paratoadau
Paratoadau
Lluniau
Cysylltwch
Cyfrannwch
English

© Siôn Brynach
2007-08