![]() |
![]() |
![]() |
|
|
Taith Patagonia Siôn Brynach's Patagonia Trek |
||
Yn ystod y tri mis ar ôl dychwelyd o Batagonia, euthum ati i brosesu a didoli'r lluniau a dynnwyd yn ystod y daith (gan eu bod oll wedi eu saethu yn fformat RAW roedd rhaid eu prosesu cyn medru eu defnyddio at ddibenion eraill). Yn dilyn hynny rwyf wedi creu llyfr o'r delweddau sy'n cynnwys hefyd y dyddiadur a gedwais yn ystod y daith (y medrwch hefyd ei ddarllen ar lein). O'i weld, mae nifer o gyfeillion wedi holi am gael prynu copi o'r llyfr A4 lliw-llawn sgleiniog sydd â 50 tudalen ac â dros 140 luniau rhwng y ddau glawr caled. Mae ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Os hoffech chi hefyd brynu copi am gost ei gynhyrchu i mi - £36.50 - yna anfonwch siec am y swm hwn (yn daladwy i Siôn Brynach) i 13 Pembroke Road, Treganna, Caerdydd, CF5 1QN gan sicrhau eich bod yn nodi eich cyfeiriad ac yn sôn hefyd pa un ai y buasech chi'n dymuno cael copi o'r fersiwn Cymraeg ynteu'r un Saesneg. I gael blas o'r lluniau sydd wedi eu cynnwys yn y llyfr yna beth am ymweld â'r oriel ar-lein, y medrwch fynd ati trwy glicio ar lun clawr y llyfr uchod. Mae'r lluniau unigol ar werth hefyd, ac os hoffech brynu copi yna cysylltwch â mi trwy gyfrwng ebost er mwyn holi am brisiau. Bydd unrhyw elw o werthiant lluniau yn mynd i Mencap Cymru. |
|||
Mwy am Siôn | |||
Pam? | |||
Dyddiadur y daith | |||
Dyddiadur Paratoadau | |||
Paratoadau | |||
Lluniau | |||
Cysylltwch | |||
Cyfrannwch | |||
English | |||
© Siôn Brynach 2007-08 |
|